Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 2 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 1 Chwefror 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09: - 10:30 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Ann Jones (Cadeirydd) Eluned Parrott (yn lle Peter Black) Janet Finch-Saunders Mike Hedges Mark Isherwood Gwyn R Price Ken Skates Elin Jones (yn lle Rhodri Glyn Thomas) Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Lyn Cadwallader, One Voice Wales |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Joanest Jackson Owain Roberts Bethan Davies (Clerc) Rhys Iorwerth (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Bethan Roberts (Cynghorydd Cyfreithiol) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Cynulliad a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Oherwydd bod Rhodri Glyn Thomas a Peter Black yn Gomisiynwyr y Cynulliad, nododd y Cadeirydd na fyddant yn cymryd rhan yn y sesiynau craffu ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
1.3 Croesawodd y Cadeirydd Alun Ffred Jones, a oedd yn dirprwyo ar ran Rhodri Glyn Thomas yn ystod eitem 2, yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2. Craffu yn ystod Cyfnod 1 Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol): Cytuno ar y ffordd ymlaen
2.1 Cytunodd y Pwyllgor yn ffurfiol ar y ffordd ymlaen o ran craffu ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol).
3. Bil Is-ddeddfau Llywodraeth Leol (Cymru): Sesiwn Dystiolaeth Cyfnod 1 - Un Llais Cymru
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Lyn Cadwallader o Un Llais Cymru.
4. Sesiwn breifat
4.1 Cytunodd y Pwyllgor i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5 yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(vi).
5. Ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy - trafod y themâu sy'n codi
5.1 Bu’r Pwyllgor yn ystyried y prif themâu a nododd y bydd yn ystyried yr adroddiad drafft mewn cyfarfod Pwyllgor yn y dyfodol.
6. Ystyried Blaenraglen Waith y Pwyllgor
6.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y penderfyniad a ganlyn, yn unol â Rheol Sefydlog 17.17:
“Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Cymunedau a Llywodraeth Leol yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen, yn unol â Rheol Sefydlog Rhif 17.17, er mwyn asesu effaith torri cyllidebau ar gyfranogiad yn y celfyddydau yng Nghymru.
Aelodau’r grŵp gorchwyl a gorffen fydd: Ann Jones, Bethan Jenkins a Joyce Watson
Ann Jones fydd Cadeirydd y grŵp gorchwyl a gorffen.
Bydd y grŵp gorchwyl a gorffen yn dod i ben ar 30 Ebrill 2012, neu pan fydd wedi cyflwyno adroddiad, pa un bynnag a ddaw gyntaf.”
6.2 Cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl ar gyfer y grŵp.
6.3 Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r ymchwiliad nesaf yn ystyried Uwch Gynghrair Cymru. Ar wahan i ychydig o fân-newidiadau, cytunodd y Pwyllgor ar y cylch gorchwyl.
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.